#

 

 

 

 

 

 


Briff ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-717

Teitl y ddeiseb: Sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu Bil i sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill. Dylai’r Bil hwn ymgorffori hawliau a chyfrifoldebau mynediad ar gyfer y cyhoedd yn yr un ffordd ag y mae Deddf Diwygio Tir (yr Alban) 2003 yn annog defnydd cydweithredol o’r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden iach ac isel eu heffaith. Rhaid i’r Bil ymgorffori hawliau mordwyo cyhoeddus ar gyfer dŵr mewndirol, a chaniatáu mynediad at ddŵr ac ar hyd dŵr. Rhaid iddo gael gwared ar y diffyg eglurder cyfreithiol a’r cyfyngiadau sy’n gweithredu fel rhwystr i chwaraeon a gweithgareddau hamdden, yn ogystal â’r gwaith o hyrwyddo Cymru fel lle sy’n croesawu gweithgareddau hamdden iach, twristiaeth a gweithgareddau anturus ar bob lefel o gyfranogiad a mwynhad.

Cefndir

Mynediad i dir yng Nghymru

Yn bennaf, hawliau tramwy, mynediad agored a mynediad caniataol yw hawliau mynediad i dir yng Nghymru. Mae hawliau mynediad yn Lloegr yn debyg iawn i rai Cymru. Mae hawliau mynediad yn llai cyfyngol yn yr Alban yn gymharol, ond yn fwy cyfyngol yng Ngogledd Iwerddon yn gymharol.

 

 

Hawliau tramwy

Priffyrdd sy’n rhoi hawl gyfreithiol i’r cyhoedd deithio arnynt yw hawliau tramwy. Yng Nghymru, mae tua 33,000 km o hawliau tramwy cyhoeddus. Mae hawliau tramwy yn cynnwys:

§    llwybrau troed - hawl tramwy ar droed yn unig;

§    llwybrau ceffylau – ar gyfer cerddwyr, marchogion a beicwyr (y mae’n rhaid iddynt ildio i bobl ar droed neu ar gefn ceffyl);

§    cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig - ar agor i gerddwyr, beicwyr, marchogion, cerbydau a dynnir gan geffylau a cherbydau modur; a

§    chilffyrdd cyfyngedig - gall roi hawl i bob math o draffig ac eithrio cerbydau modur.

Mynediad agored

Gellir cael mynediad i rai ardaloedd o dir heb orfod defnyddio llwybrau. Gelwir tir o’r math hwn yn ‘dir mynediad’. Mae tir mynediad yn cynnwys tir agored (mynydd, gweundir, rhostir a thwyndir), tir comin cofrestredig ac ardaloedd o goedwigoedd cyhoeddus penodedig (lle mae perchnogion fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu mynediad am ddim). Mae pumed ran o Gymru wedi’i mapio fel ‘tir mynediad’. Mae hyn yn cynnwys 360,000 hectar o dir agored a thir comin yn ogystal â 100,000 hectar o dir Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae rhai gweithgareddau na ellir, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, ymgymryd â hwy ar dir mynediad. Gelwir y rhain yn ‘gyfyngiadau cyffredinol’. Maent yn cynnwys marchogaeth ceffylau, beicio, pysgota, gwersylla, mynd ag anifeiliaid heblaw am gŵn ar y tir, gyrru cerbydau a chwaraeon dŵr.

Mynediad caniataol

Gall rhai tirfeddianwyr ganiatáu i’r cyhoedd gael mynediad i’w tir ar gyfer cerdded, beicio neu farchogaeth. Gelwir hyn yn ‘fynediad caniataol’. Gellir cyfyngu ar fynediad ar adegau penodol o’r flwyddyn, er enghraifft i ddiogelu adar sy’n nythu ar y ddaear. Mae gan dirfeddianwyr gyfrifoldeb gofal ar gyfer y rhai sy’n defnyddio mynediad caniataol ar eu tir.

Gall rhai tirfeddianwyr ddod i gytundeb ag awdurdod cyhoeddus i ganiatáu i’r cyhoedd gael mynediad i’w tir. Yn yr achosion hyn byddai telerau a chytundebau unrhyw gontract a lofnodwyd yn berthnasol. Un enghraifft o hyn yw Glastir, sef cynllun amaeth-amgylchedd Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi’r cyfle i dirfeddianwyr, yn gyfnewid am dâl, roi mynediad caniataol i dir na fyddai modd mynd iddo fel arall.

Deddfwriaeth

Mae llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n rheoli mynediad yng Nghymru (a Lloegr); Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yw’r mwyaf arwyddocaol o’r rhain.

O dan y Ddeddf, mae gan awdurdodau priffyrdd lleol gyfrifoldeb am ddiogelu a chynnal hawliau tramwy, cyhoeddi Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy, a mapio hawliau tramwy ar Fapiau a Datganiadau Diffiniol. Mae hefyd yn darparu hawl statudol i wneud cais i ddiddymu yn barhaol neu ddargyfeirio rhai hawliau tramwy cyhoeddus.

Hefyd, o dan y Ddeddf, cyflwynwyd hawl gyffredinol i’r cyhoedd gael mynediad ar droed i dir penodol, h.y. tir mynediad. Nid yw’r Ddeddf yn cynnwys mynediad caniataol.

Mynediad i ddŵr mewndirol yng Nghymru

Nid yw hawliau mynediad o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn cynnwys mynediad i ddŵr mewndirol.

Mae mynediad i ddŵr mewndirol yng Nghymru wedi bod yn fater cynhennus iawn yn y gorffennol gyda barn gref ar ddwy ochr y ddadl. Mae defnyddwyr dŵr hamdden, fel canŵ-wyr, o blaid deddfwriaeth i roi hawl i bobl lywio’r dyfroedd hyn. Yn gyffredinol, mae pysgotwyr a sefydliadau pysgota yn gwrthwynebu rhoi hawl mynediad cyffredinol i ddefnyddwyr dŵr hamdden.

Yn fras, yn ôl defnyddwyr hamdden, mae galw mawr am weithgareddau hamdden ar ddyfroedd mewndirol yng Nghymru a byddai cynyddu’r mynediad yn arwain at fwy o dwristiaeth a manteision economaidd. Mae grwpiau genweirio a physgota yn dadlau y gall defnyddio’r dŵr at ddibenion hamdden achosi niwed amgylcheddol i bysgodfeydd, a silfeydd rhywogaethau fel yr eog yn arbennig. Ar hyn o bryd, dadl y genweirwyr yw eu bod yn talu trwydded pysgota â gwialen a ffioedd eraill i bysgota yn yr afonydd, tra nad yw defnyddwyr hamdden yn talu dim ffioedd tuag at gostau cynnal a gwella afonydd. 

Mae crynodeb o’r drafodaeth ar y materion yn adroddiad Pwyllgor Cynaliadwyedd y Trydydd Cynulliad ar ei Ymchwiliad i fynediad i ddŵr mewndirol yng Nghymru (2010) (PDF 1379KB). Ymdrinnir â’r ymchwiliad yn fanylach yn nes ymlaen yn y papur briffio hwn.

Mae rhai wedi dadlau bod hawliau mordwyo hanesyddol yn rhoi hawl mynediad cyffredinol i afonydd a llynnoedd di-lanw i ddefnyddwyr hamdden. Y farn gyffredin, fodd bynnag, yw nad oes gan bobl hawl gyffredinol o dan y gyfraith gyffredin i fordwyo dyfroedd di-lanw na llynnoedd mewndirol yng Nghymru a Lloegr. Yn ei adroddiad ar yr ymchwiliad, er iddo ystyried y safbwyntiau ynglŷn â hawliau hanesyddol, daeth y Pwyllgor Cynaliadwyedd i’r casgliad:

Fodd bynnag, nid oes unrhyw gynsail barnwrol sy’n cadarnhau hyn, ac er bod hyn o ddiddordeb i ni wrth ystyried barn y tystion hyn ni allwn, at ddibenion ein hymchwiliad, seilio ein hargymhellion ar safbwynt ynglŷn â’r gyfraith sy’n groes i’r un a dderbynnir yn gyffredinol.

Mae Llywodraeth Cymru, wrth ddatblygu ei pholisi ar y mater, wedi mabwysiadu’r un safbwynt cyfreithiol.

Mae rhai afonydd yng Nghymru lle y caniateir mynediad at ddibenion hamdden eisoes, a hynny naill ai am resymau hanesyddol neu am fod cytundebau mynediad gwirfoddol wedi cael eu cytuno.

Deddf Diwygio Tir (yr Alban) 2003

Deddf Diwygio Tir (yr Alban) 2003 a Chod Mynediad Awyr Agored yr Alban, sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf, yw’r brif ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â mynediad awyr agored yn yr Alban. Daeth yr hawl statudol i fynediad sy’n gysylltiedig i rym yn 2005.

Mae Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Tir (yr Alban) yn sefydlu hawliau mynediad statudol ar gyfer y cyhoedd i dir a dŵr mewndirol ar gyfer gweithgareddau hamdden ac addysg a gweithgareddau eraill. Mae’r hawliau’n benodol yn eithrio unrhyw fath o weithgarwch modur (oni bai ei fod ar gyfer mynediad i bobl anabl), hela, saethu a physgota.

Mae’r hawliau’n gymwys ledled yr Alban gan gynnwys ardaloedd trefol, bryniau, tir amaethyddol, coedwigoedd, traethau, camlesi, llychau ac afonydd. Fodd bynnag, nid yw’r hawliau mynediad yn berthnasol o fewn adeiladau, strwythurau na’u hamgylchedd uniongyrchol, tai a gerddi, a thir ar gyfer cnydau (nid ystyrir fod glaswellt yn gnwd oni bai ei fod yn tyfu ar gyfer gwair/silwair), er y caniateir mynediad i ymylon caeau.

Mae pwyslais Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Tir (yr Alban) ar reoli mynediad ar lefel leol gan roi pwerau i awdurdodau lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (awdurdodau mynediad) i reoli mynediad yn eu hardal. Mae Deddf Diwygio Tir (yr Alban) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu Fforymau Mynediad Lleol. Mae’r Ddeddf  yn nodi y gall awdurdodau mynediad eithrio ardal benodol o dir a/neu ddŵr mewndirol o hawliau mynediad dros dro drwy ‘Orchymyn adran 11’.

Mae Deddf Diwygio Tir (yr Alban) yn rhoi dyletswydd ar yr awdurdod lleol i lunio cynllun ar gyfer system o lwybrau (‘llwybrau craidd’) sy’n ddigonol at y diben o roi mynediad rhesymol i’r cyhoedd yn eu hardal.

Mae rhagor o wybodaeth ar fynediad ym mhob un o wledydd y DU ar gael yng nghyhoeddiad y Gwasanaeth Ymchwil: Mynediad i gefn gwlad yn y DU: adolygiad o bolisi a deddfwriaeth cysylltiedig (2014) (PDF 646KB)

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraethau blaenorol Cymru wedi mynegi cefnogaeth gyffredinol dros gynyddu mynediad i ddŵr mewndirol ar gyfer defnyddwyr hamdden ac, yn y gorffennol, mae wedi cefnogi dull gwirfoddol (PDF 158) yn hytrach nag un statudol. Roedd Cronfa Sblash Llywodraeth Cymru yn weithredol o 2009 tan 2014, gan ddarparu cyllid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cytundebau mynediad gwirfoddol a chyfleusterau gwell i ddefnyddwyr dŵr hamdden, megis pwyntiau mynediad gwell i afonydd mewn lleoliadau priodol.

Cynhaliodd Llywodraeth flaenorol Cymru adolygiad o’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch mynediad a hamdden awyr agored , gan gasglu:

§    Ar dir, mae angen gwella ein rhwydwaith hawliau tramwy a gwneud y fframwaith deddfwriaethol cysylltiedig yn fwy effeithiol; ac

§    Ar ddŵr, mae angen gweld cynnydd yn nifer y cytundebau mynediad gwirfoddol sy’n darparu ar gyfer ystod o weithgareddau hamdden.

Yn 2015, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyrdd o’r enw Gwella’r cyfleoedd i gael mynediad i’r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol. Mae’r cynigion allweddol yn y Papur Gwyrdd yn cynnwys:

§    Dileu cyfyngiadau ynghylch gofnodi hawliau tramwy cyhoeddus, cynnal llwybrau, a chreu, dargyfeirio a diddymu. Mae’r cynigion yn cynnwys dileu rhai o’r cyfyngiadau ar ystod y gweithgareddau y gellir eu cynnal ar lwybrau tramwy ac ar dir mynediad;

§    Dull mwy caniataol i fynediad, gan gynnwys ymestyn y diffiniad o dir mynediad i gynnwys ardaloedd eraill fel coetiroedd, llynnoedd a chlogwyni arfordirol; a

§    Gwella mynediad i ddŵr trwy gael mwy o gyfleodd am fynediad hamdden cyfrifol i ddyfroedd mewndirol, yr arfordir a’r amgylchedd morol.

Cafodd yr ymgynghoriad 5,796 o ymatebion. Nododd y crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad (PDF 116KB), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, nad oedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yr adeg honno a fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gweithredu.

Ysgrifennodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, at y Pwyllgor Deisebau ar 19 Hydref 2016. Yn ei llythyr, nodir bod y rhan fwyaf o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad o’r farn bod y system bresennol yn rhy gymhleth ac yn feichus.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd ei bod yn awyddus i gynyddur cyfleoedd ar gyfer mynediad awyr agored ai bod yn fwriad ganddi ddatblygu cynigion ir perwyl hwn, ac y byddair cwmpas ar amserlen ar gyfer gwneud hyn yn cael eu nodi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Deisebau’r Trydydd Cynulliad 2009

Yn 2008, cyflwynwyd deiseb i’r Pwyllgor Deisebau yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i gynyddu mynediad i ddŵr mewndirol yn seiliedig ar y model a fabwysiadwyd gan yr Alban o dan Ddeddf Diwygio Tir (yr Alban). Cytunodd y Pwyllgor Deisebau i gynnal ymchwiliad byr i’r mater ac adrodd ym mis Mawrth 2009.

Canfu’r Pwyllgor (PDF 227KB) fod y sefyllfa yng Nghymru yn ‘anghynaladwy ac yn anymarferol’ a bod llawer o ‘gymhlethdod a dryswch’ ynghylch yr hawliau niferus ac amrywiol o ran dŵr mewndirol. Daeth i’r casgliad bod angen deddfwriaeth newydd ar fynediad i ddŵr mewndirol ac y byddai Deddf Diwygio Tir (yr Alban) yn rhoi sylfaen ar gyfer datblygu ‘model unigryw yng Nghymru’.

Ar sail hynny, argymhellodd y Pwyllgor Deisebau y dylai un o bwyllgorau craffu’r Cynulliad gynnal ymchwiliad llawn i’r angen am ddeddfwriaeth newydd.

Pwyllgor Cynaliadwyedd y Trydydd Cynulliad 2010

Mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Deisebau, cynhaliodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd ymchwiliad i’r mater a barodd 12 mis. Mae ei adroddiad (PDF 1379KB), a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2010, yn cynnwys 13 o argymhellion. Er iddo gytuno â’r Pwyllgor Deisebau fod y sefyllfa yn anghynaliadwy a bod angen fframwaith deddfwriaethol newydd, nid oedd yn cefnogi barn y Pwyllgor Deisebau fod Deddf Diwygio Tir (yr Alban) yn fodel addas ar gyfer Cymru.

Argymhellodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd y dylid mabwysiadu deddfwriaeth a fyddai’n pennu ‘corff arweiniol’ yng Nghymru i fod yn gyfrifol am hwyluso cytundebau gwirfoddol rhwng rhanddeiliaid. Dywedodd hefyd y dylai fod gan y ‘corff arweiniol’ hwn y grym i fabwysiadu dull gorfodol lle nad oedd cytundeb gwirfoddol yn bosibl. Derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad hwn mewn egwyddor (PDF 160KB), gan nodi ei bod am werthuso llwyddiant y dull gwirfoddol cyn penderfynu a oes angen ddull gorfodol. Ar adeg cyhoeddi’r adroddiad, nid oedd gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol angenrheidiol i gyflwyno deddfwriaeth o’r fath, ond fe gafodd y cymhwysedd hwn yn sgil refferendwm 2011.

Mewn perthynas â Deddf Diwygio Tir (yr Alban), daeth y Pwyllgor i’r casgliad y byddai’r gwahaniaeth rhwng cyfreithiau tresmasu Cymru a Lloegr a chyfreithiau tresmasu’r Alban yn ei gwneud yn anodd i Gymru fabwysiadu model tebyg i un yr Alban.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.